facebook twitter

"...am radlonrwydd ac agosrwydd ac amgylchoedd ysblennydd, mae tref Llanfyllin heb ei hail"

Eglwys Sant Myllin a Llanfyllin

Llanfyllin ChurchMae Eglwys Blwyf Sant Myllin yng nghanol Llanfyllin, sef tref farchnad fach yn swatio ym mryniau crwn a gwyrdd (a defaid ar eu llethrau) yng ngogledd Canolbarth Cymru, yn agos at y ffin â Lloegr, ond tref sy’n dal i fod yn hynod Gymreig ei naws.

Mae’r Eglwys, a godwyd o frics coch meddal, yn dyddio o ryw 1706. Mae ei thu mewn golau a’i ffenestri lliw hyfryd yn atgoffa rhywun yn fwy o arddull Rococo Bafaraidd na mwyafrif eglwysi Lloegr. Mae rhinweddau acwstig rhagorol yr eglwys yn ei gwneud yn lle delfrydol bron iawn ar gyfer cerddoriaeth siambr o’r radd flaenaf.

Mae yna faes parcio mawr ychydig y tu hwnt i’r Eglwys, ac nid oes yn rhaid talu i barcio yno (gwiriwch yr ardaloedd a’r amseroedd parcio di-dâl pan fyddwch chi’n cyrraedd yno).