facebook twitter

"...am radlonrwydd ac agosrwydd ac amgylchoedd ysblennydd, mae tref Llanfyllin heb ei hail"

Gweld Map Mwy

O Amwythig

Cymerwch ffordd yr A459 i'r Trallwng a throi i’r dde ychydig y tu hwnt i bentref Ford i fynd ar y B4393 (ag arwyddbost i Lyn Efyrnwy). Anelwch am Lansanffraid-ym-Mechain: trowch i’r chwith ar ôl croesi’r bont yn Llansanffraid ac yna troi i’r dde ym mhen pellaf y pentref, gan ddilyn arwyddbyst i Lanfyllin. Ar ôl tua pedair milltir, trowch i’r dde pan ddewch i’r gyffordd-T â’r A490. Daw’r A490 i ben yn Llanfyllin.

O’r Gogledd (trwy Groesoswallt):

Dylai ymwelwyr sy’n teithio i’r de o Groesoswallt ar yr A483 tuag at y Trallwng droi i’r dde am Lansanffraid ger croesffordd Llynclys.

O’r Trallwng a’r de

Cymerwch yr A490 o’r gylchfan ym mhen gorllewinol y Trallwng, a’i dilyn i Lanfyllin. (Sylwch fod yr A490 yn ymuno â’r A495 am ryw ychydig, sy’n golygu bod yn rhaid troi i’r dde pan ddewch i’r gyffordd ac yna cymryd y troad cyntaf i’r chwith).

Pan fyddwch chi’n cyrraedd Llanfyllin, ewch drwy'r dref (os ydych chi’n dod i mewn iddi o’r Dwyrain), heibio i'r sgwâr ar y chwith a bydd Eglwys Sant Myllin ar y dde. Mae yna rai lleoedd i barcio ar y ffordd; mae’r maes parcio cyhoeddus ychydig o lathenni y tu hwnt i’r eglwys ar y dde. (Gwiriwch yr ardaloedd a’r amseroedd parcio di-dâl pan fyddwch chi’n cyrraedd yno.)