Ein Cefnogi
Fel elusen gofrestredig, mae Gŵyl Gerdd Llanfyllin yn dibynnu ar gefnogaeth barhaus ymwelwyr, ymddiriedolaethau a sefydliadau, cefnogwyr corfforaethol, Aelodau a chymwynaswyr unigol i’w gwaith.
Bob blwyddyn, rydym yn codi’r arian sydd ei angen i gael perfformwyr o’r radd flaenaf a chael prisiau tocynnau y gall pawb eu fforddio. Beth am wneud rhodd neu ddod yn Aelod i helpu i sicrhau bod yr Ŵyl yn cael ei chynnal a’i datblygu er mwynhad cynulleidfaoedd heddiw a chenedlaethau i ddod?
![]() Cefnogaeth unigolGallwch chi gefnogi Gŵyl Gerdd Llanfyllin fel Aelod, Aelod Cyswllt neu Noddwr a mwynhau amrywiaeth o fuddion arbennig. |
![]() Cefnogaeth gorfforaetholMae buddion noddi’n cynnwys cyhoeddusrwydd i’ch busnes yn y deunydd hyrwyddo a’r rhaglenni cyn ac yn ystod tymor yr Ŵyl. |
![]() Gwneud rhodd i’r ŴylBeth am gefnogi gwaith Gŵyl Gerdd Llanfyllin fel cymwynaswr unigol a sicrhau ei dyfodol? |
Click here to download our Friend/Benefactor/Sponsor form
Hoffem ddiolch i’r noddwyr a’r sefydliadau a ganlyn sydd wedi cefnogi Gŵyl Gerdd Llanfyllin dros y blynyddoedd:
Cyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Ralph Vaughan Williams, Cyswllt Celf, Ymddiriedolaeth Concertina, Sefydliad Calouste Gulbenkian, Sefydliad Derek Hill, Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Sefydliad Laura Ashley, Cyngor Tref Llanfyllin.